![]() |
![]() |
|||
![]() |
|||
12 Mehefin 2024
Annwyl Dawn
Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) a sesiwn graffu gyffredinol
Diolch i chi am ddod i’n sesiwn dystiolaeth ar 6 Mehefin, ynghyd â’ch swyddogion, i drafod y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ac ar gyfer sesiwn graffu gyffredinol.
Yn ystod y sesiynau hynny, roedd nifer o feysydd y gwnaethoch gytuno i roi rhagor o wybodaeth yn eu cylch. Hefyd, mae gennym nifer o gwestiynau ychwanegol yr hoffem eu holi i chi. Er hwylustod, rwyf wedi cynnwys yr holl faterion hyn yn yr atodiad i'r llythyr hwn.
Rydych wedi cytuno i ddod yn ôl at y Pwyllgor ar 17 Gorffennaf i drafod y Bil ymhellach. Byddai'n ddefnyddiol cael eich ymateb i'r llythyr hwn cyn hynny, erbyn dydd Gwener 28 Mehefin, fel y gallwn ei ystyried yn llawn.
Rwy'n anfon copi o’r llythyr hwn at Mike Hedges AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Yn gywir

Russell George AS
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg. We
welcome correspondence in Welsh or English.
Atodiad
Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)
Cyfyngu ar elw
Ystyriaethau hawliau dynol
1. Beth yw eich asesiad o'r ystyriaethau hawliau dynol mewn perthynas â'r Bil hwn, yn enwedig ynghylch a allai darpariaethau'r Bil sy'n cyfyngu ar y gallu i wneud elw gyffwrdd â'r hawliau o dan Erthygl 8, a'r hawl i fwynhad heddychlon o eiddo o dan Erthygl 1 o'r Protocol Cyntaf i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol? A oes unrhyw hawliau eraill wedi cael eu hystyried?
Yr egwyddor y tu ôl i ddeddfwriaeth
2. Yn eich datganiad ar gyflwyno'r Bil, gwnaethoch chi ddweud mai'r man cychwyn ar gyfer y ddeddfwriaeth hon oedd yr egwyddor o beidio â gwneud elw o ofal pobl fregus. Ceir cyfeiriad hefyd fod barn plant a phobl ifanc ar elw yn sbardun allweddol i'r Bil. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddileu elw gan staff asiantaethau gwaith cymdeithasol plant, o ystyried bod y ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod 17.5 y cant o weithwyr cymdeithasol plant yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan asiantaeth.
Taliad afresymol neu amhriodol
3. Mae adran 6 y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried, ymhlith materion eraill, a yw darparwr gwasanaeth plant cyfyngedig wedi ymrwymo i drefniant ariannol gyda pherson perthnasol sy'n afresymol neu'n anghymesur o dan yr holl amgylchiadau. Mae ymadroddion allweddol eraill yn y ddarpariaeth hon wedi cael ystyr benodol yn y Bil, ond ni roddir ystyr benodol i "afresymol neu anghymesur". Beth ydych chi'n ystyried fyddai'n gyfystyr â threfniant ariannol afresymol neu anghymesur at ddibenion y Bil, a pham eich bod wedi dewis peidio â diffinio'r term hwn ar wyneb y Bil?
4. Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â chyfyngiadau ar elw yn cynnwys nifer o bwerau i wneud rheoliadau.
a) Pam y defnyddiwyd y dull hwn yn hytrach na chynnwys mwy o wybodaeth ar wyneb y Bil, er enghraifft, pam na ellir roi diffiniad ar gyfer "budd cyhoeddus" ar wyneb y Bil?
b) Mae Tabl 5.1 yn dweud bod y dull hwn yn caniatáu diogelu at y dyfodol. Yn eich barn chi, pa agweddau y gallai fod angen eu newid yn y dyfodol?
c) Pam ydych chi wedi dewis cymhwyso'r weithdrefn negyddol i'r mwyafrif o'r pwerau rheoleiddio sy'n ymwneud â chyfyngiadau ar elw, gyda'r canlyniad bod y Senedd yn cael llai o gyfle i graffu arnynt?
d) Sut wnaethoch chi benderfynu pa bwerau fyddai'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft, a pham ydych chi wedi dewis cymhwyso gweithdrefn wahanol ar rai achlysuron i'r tro cyntaf y caiff pŵer ei arfer, yn hytrach nag unrhyw amser arall?
Cyfeiriad at leoliadau anghofrestredig
5. Mae adran 13 yn nodi’r ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal yn y “lleoliad mwyaf priodol”. Mae'r Nodiadau Esboniadol yn nodi y gall lleoliad fod “mewn llety anghofrestredig (dros dro neu mewn achosion brys)”. Nid yw’r cyfeiriad hwn yn ymddangos yn Neddf 2014 nac ar wyneb y Bil hwn. Mae'r Bil yn defnyddio'r un derminoleg â'r diffiniad o leoliadau yn a81(6)(d) presennol, sy'n nodi y gellir gwneud lleoliad yn unol â threfniadau sy'n cydymffurfio â rheoliadau a wneir at ddibenion yr adran honno (Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 ar hyn o bryd). A allwch egluro beth sydd wedi newid, os o gwbl, mewn perthynas â lleoliadau anghofrestredig?
Risgiau tanseilio arferion
6. Beth ydych chi wedi'i nodi fel yr ystod lawn o risgiau a allai olygu bod nodau polisi'r Bil yn cael eu tanseilio gan arferion sy'n mynd yn groes i'w ysbryd a'i fwriad, megis codi ffioedd gormodol gan riant gwmnïau gwasanaethau nid-er-elw, a allai fod yn gyfystyr â chymryd elw trwy ddulliau eraill. Sut mae'r holl risgiau hyn wedi cael eu lliniaru yn y Bil?
Comisiynu rhanbarthol/Cymru gyfan
7. Asesiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd o'r sefyllfa yng Nghymru yw nad oes angen gwaharddiad neu derfyn ar elw i ddarparu marchnad lleoliadau sy'n gweithredu'n dda. Maen nhw’n pwysleisio'r angen am gomisiynu gwell ac yn cyfeirio at gaffael cydweithredol sy’n digwydd yn genedlaethol, gan ddweud eu bod yn glir fod darnio gormodol yn y prosesau rhagweld, llunio’r farchnad a chaffael yn sbardun allweddol i ganlyniadau gwael yn y farchnad hon, ac felly mae'n rhaid mynd i'r afael â hyn os ydym am weld gwelliant sylweddol yn y canlyniadau. Pa ystyriaeth y gwnaethoch ei rhoi i newid trefniadau presennol yr awdurdod lleol, a pham na wnaethoch chi ddilyn yr opsiwn o ragfynegi a chomisiynu rhanbarthol neu genedlaethol?
Buddsoddiadau yn y Bil hyd yma
8. Faint o leoliadau newydd 'nid-er-elw' sydd wedi'u creu hyd yma o ganlyniad i'r £68 miliwn a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru. Pa ganran y mae hyn yn ei gynrychioli yn yr angen a ragwelir am leoliadau? Beth fydd yr ymrwymiad ariannol blynyddol gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i ddatblygu'r ddarpariaeth nid-er-elw?
Amrywiad rhanbarthol
9. Beth yw'r ganran amcangyfrifedig o leoliadau'r sector preifat/lleoliadau nid-er-elw fesul awdurdod lleol yng Nghymru?
Goblygiadau trawsffiniol i blant sy'n cael eu gosod o Loegr a'r Alban
10. Faint o blant ydych chi'n amcangyfrif sy'n cael eu rhoi mewn lleoliadau preifat yng Nghymru gan awdurdodau lleol y tu allan i Gymru ar hyn o bryd? Sut ydych chi'n rhagweld y bydd eu hamgylchiadau yn cael eu cynnwys yn y trefniadau trosiannol yn y Bil?
Dyddiad diwedd y cyfnod pontio
11. Mae'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn caniatáu pennu dyddiad olaf y cyfnod pontio mewn rheoliadau. Beth yw'r ystod amcangyfrifedig o ddyddiadau yr ydych wedi'u hystyried a beth yw'r dyddiad hwyraf sy'n rhesymol i drefniadau pontio ddod i ben yn eich barn chi? A ydych wedi ystyried pennu'r diwedd ar wyneb y Bil gyda phwerau i ddiwygio hynny drwy reoleiddio fel modd o liniaru cyfnod pontio hir sy'n tanseilio nodau'r Bil?
Cynllun digonolrwydd blynyddol
12. Mae adran 11 yn gosod dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i baratoi a chyhoeddi cynllun digonolrwydd blynyddol ar gyfer llety i blant sy’n derbyn gofal. A allwch amlinellu'r mathau o resymau pam y gallai Llywodraeth Cymru ragweld gwrthod cynllun digonolrwydd? Beth fydd yn digwydd os gwrthodir ail ddrafft cynllun digonolrwydd, a pham nad yw’r Bil yn nodi hyn?
Llety sy’n ‘agos’ at yr awdurdod lleol
13. Mae'r Bil yn diwygio'r ddeddfwriaeth bresennol fel y bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau llety, yn hytrach nag “o fewn” ardal awdurdod lleol y plentyn, “yn agos iddi”. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn awgrymu bod hwn yn ddull mwy pragmatig a fydd yn caniatáu ar gyfer lleoliadau ychydig dros ffin yr awdurdod lleol. Beth yw eich asesiad o'r canlyniadau anfwriadol posibl sy'n deillio o hyn, er enghraifft, os yw awdurdodau lleol o dan bwysau, gallai plant fod yn fwy tebygol o gael eu lleoli ymhellach oddi wrth ardal eu cartref oherwydd pa leoliadau sydd ar gael yn hytrach na'u 'budd gorau'.
Lleoliadau atodol
14. A allwch chi gadarnhau y bydd yn rhaid i leoliadau atodol fod y tu allan i Gymru ar ôl diwedd y cyfnod pontio, o gofio na all darparwyr nid-er-elw gofrestru yma yn gyfreithiol o dan ddarpariaethau'r Bil.
15. Mae adran 13(3) o'r Bil yn diwygio Deddf 2014 i fewnosod adran 81B newydd: Y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal: cais i gymeradwyo lleoliad atodol. Ai’r bwriad yw i’r swyddogaeth gymeradwyo a gwrthod lleoliadau atodol o dan yr adran newydd hon gael ei chyflawni'n uniongyrchol gan Weinidogion Cymru neu gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar eu rhan?
16. Beth
fyddai'r weithdrefn ar gyfer gofyn am swyddogaeth lleoliad atodol
yn achos argyfwng, er enghraifft, gofyniad byr-rybudd ar yr un
diwrnod i osod plentyn? A yw hyn yn cael ei ddarparu yn y
Bil?
17. Beth yw'r
meini prawf i Weinidogion Cymru asesu / cymeradwyo / gwrthod cais
awdurdod lleol ar gyfer "lleoliad atodol" (ac eithrio'r
ddarpariaeth gyffredinol yn y Bil y byddai'n anghyson â phrif
ddyletswydd yr awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy'n
derbyn gofal o dan adran 78 o Ddeddf 2014)?
18. Yn gysylltiedig â chwestiwn 17, mae tabl 5.1 o'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at reoliadau a gyhoeddir o dan adran 13(3) sy'n ymwneud â rhagnodi gwybodaeth arall i'w chynnwys mewn cais i leoliad atodol fod 'o natur weinyddol'. A allwch egluro na fyddent felly yn cynnwys unrhyw feini prawf ar gyfer cymeradwyo/gwrthod lleoliadau atodol.
19. Mae'r Nodyn Esboniadol yn nodi y gall lleoliad fod “mewn llety anghofrestredig (dros dro neu mewn achosion brys)”. Ni chyfeirir at hyn yn Neddf 2014 nac yn y Bil. A allwch chi egluro pam mae'r term hwn wedi'i nodi yn y Nodiadau Esboniadol?
Taliadau uniongyrchol
20. Yn Lloegr, mae'r hyn sy'n cyfateb i daliadau uniongyrchol (Cyllidebau Iechyd Personol) wedi'u caniatáu ar gyfer gofal iechyd parhaus oedolion a phlant ers 2014. A allwch egluro pam mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ffocws yn y Bil hwn ar ofal iechyd parhaus oedolion yn unig, ac a oes bwriad i ehangu hyn i ofal parhaus plant yn y dyfodol?
21. Yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, cynigiwyd rhoi pŵer i fyrddau iechyd lleol roi cymorth mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol. Fodd bynnag, mae geiriad y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y trefniadau y gall bwrdd iechyd lleol eu gwneud. Pam y gwnaethoch chi benderfynu peidio â rhoi’r pŵer i fyrddau iechyd lleol ar wyneb y Bil fel y cynigiwyd yn wreiddiol?
22. O ystyried y materion presennol gyda thaliadau uniongyrchol (y nifer lai o bobl sy’n eu cael, a diffyg cysondeb wrth gefnogi pobl), a oes dadl dros gryfhau'r darpariaethau cyfreithiol i ddarparu gwybodaeth a chyngor i hyrwyddo taliadau uniongyrchol, ac i ddarparu cymorth i helpu pobl i'w rheoli? Ymhellach, yn ystod ein cyfarfod, gwnaethoch gynnig darparu gwybodaeth ychwanegol am y nifer sy’n manteisio ar daliadau uniongyrchol mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys cymhellion/anghymhellion posibl i fyrddau iechyd hybu’r defnydd o daliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. Byddem yn falch o gael hyn.
23. Sut ydych chi'n bwriadu codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am hawl newydd defnyddwyr gwasanaethau i gael taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus (bydd hwn yn opsiwn newydd sylweddol o ran gofal iechyd parhaus na fydd y cyhoedd yn ymwybodol ohono)?
24. Disgwylir y bydd nifer y bobl sy'n defnyddio gofal iechyd parhaus yn cynyddu os caniateir taliadau uniongyrchol (a bydd llai o bobl yn gwrthod asesiadau gofal iechyd parhaus). Sut ydych chi'n cefnogi gwasanaethau i baratoi ar gyfer y galw cynyddol hwn a’i reoli?
25. O ystyried y diffyg capasiti ym maes gofal cymdeithasol, a allai fod yn ganlyniad anfwriadol fod rhai teuluoedd yn teimlo dan bwysau i dderbyn taliadau uniongyrchol (ac mae aelodau'r teulu yn dod yn ofalwyr/cynorthwywyr) oherwydd diffyg gwasanaethau gofal sydd ar gael yn hytrach na gwneud hynny o ddewis?
26. Allwch chi esbonio mwy am yr arbedion rydych chi'n disgwyl eu gwneud a fydd yn gwneud iawn am y costau? O ble y daeth yr arbedion yn Lloegr a beth oedd yr amserlen ar gyfer eu gwireddu?
27. Yn ôl awdurdodau lleol, mae'r bar cymhwysedd ar gyfer mynediad at Ofal Iechyd Parhaus wedi parhau i gynyddu dros amser, gan olygu bod llai a llai o bobl yn cael mynediad. A allai'r dull hwn, sy’n ymddangos fel petai’n "gwarchod", fod yn rhwystr rhag cyflawni nodau'r Bil hwn (h.y. a oes risg y gwrthodir gofal iechyd parhaus ar gam i bobl yn dilyn asesiadau sy'n golygu na allant elwa o'r ddeddfwriaeth)?
28. Yn ôl paragraff 7.144 o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, mae’r gost gyfartalog ar gyfer Cyllidebau Iechyd Personol yn Lloegr yn amrywio o £46,000 i £120,000, gyda chyfartaledd o £80,000. Mae'n nodi ei bod yn "debygol y bydd amrywiad tebyg rhwng pecynnau yng Nghymru”. Fodd bynnag, rydych wedi defnyddio "cost enghreifftiol ar ben isaf y raddfa hon" ar gyfer gwariant a ragwelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar daliadau uniongyrchol Gofal Iechyd Parhaus. Pam hynny, o ystyried cymhlethdod tebygol yr achosion?
29. Er nad ydych yn defnyddio ystod cost gyfartalog Cyllidebau Iechyd Personol yn Lloegr, rydych wedi cymhwyso'r gostyngiad canrannol mewn costau a adroddwyd gan GIG Lloegr ar ôl iddynt gael eu cyflwyno: 11 y cant ar gyfer yr holl Gyllidebau Iechyd Personol a 16 y cant ar gyfer taliadau uniongyrchol Cyllidebau Iechyd Personol. Ym mha ddogfen y nododd GIG Lloegr y gostyngiadau hyn mewn costau, a pham ydych chi'n credu ei bod yn sail resymol ar gyfer lleihau alldro taliadau uniongyrchol Gofal Iechyd Parhaus y Bwrdd Iechyd Lleol?
30. Mae'n ymddangos eich bod wedi cymhwyso'r gostyngiad mewn costau a adroddwyd gan GIG Lloegr i gyrraedd cost net taliadau uniongyrchol Gofal Iechyd Parhaus ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol. Pam nad yw'r gostyngiad hwn mewn costau yn cael ei adrodd fel budd posibl i'r Bil, fel rydych chi wedi'i wneud i’r rhai sy’n cael Gofal Iechyd Parhaus eisoes sy'n trosglwyddo i daliadau uniongyrchol a phecynnau Gofal Iechyd Parhaus newydd sy'n cael eu darparu drwy daliadau uniongyrchol?
Darpariaethau gofal cymdeithasol eraill
31. Mae adran 18 o'r Bil yn ychwanegu gweithwyr gofal plant at ddiffiniad 'gweithiwr gofal cymdeithasol'. Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol, cynigiwyd hefyd ychwanegu gweithwyr chwarae, i "egluro’r rôl statudol y mae GCC yn ei chwarae" ar gyfer pob gweithiwr gofal plant a chwarae. Beth yw'r rhesymeg dros beidio â chynnwys gweithwyr chwarae yn y Bil fel y’i drafftiwyd?
32. Mae’r Bil yn gwneud diwygiadau i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae'r Pwyllgor hwn eisoes wedi clywed tystiolaeth am hepgor Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau ar wyneb y Ddeddf, yn wahanol i hawliau'r plentyn ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. A fyddai Llywodraeth Cymru yn fodlon manteisio ar y cyfle hwn i gywiro hyn, er mwyn sicrhau bod hawliau pobl anabl yn cael yr un amlygrwydd yn y ddeddfwriaeth?
Camau dilynol o’r sesiwn graffu gyffredinol
Yn ystod y sesiwn graffu gyffredinol yn syth ar ôl y sesiwn ar y Bil, gwnaethoch gytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda’r wybodaeth ganlynol:
33. Cadarnhau nifer y swyddi gwag ar hyn o bryd ar draws gofal cymdeithasol, gan gynnwys y ganran gyfatebol o'r gweithlu y mae'r rhif hwnnw yn ei gynrychioli.
34. Rhoi diweddariad ar y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi gofalwyr di-dâl, gan gynnwys gofalwyr ifanc.